en
Archebu ystafell
Archebu bwrdd
Bwydlen

Ein Tŷ

Bwyty glan môr cyfoes a bar yw Sandy Mount House ym mhentref glan môr Rhosneigr, Môn. Cartref oddi cartref i fwyta, ymgynnull a chysgu.

Croeso

Mae ein tŷ wedi'i godi ar werthoedd o gynhesrwydd ac ansawdd gan ganolbwyntio ar roi lefel newydd o groeso a lletygarwch i Rhosneigr.

Gydag awyrgylch hamddenol, bwyd blasus, cwrw go iawn, cwrw’r grefft a choctels, rydym yn lle bywiog a chwaethus i ymgynnull ac i bobl ymlacio a theimlo y gallant anghofio’r bywyd beunyddiol. Bydd ein tŷ’n llawn syrffwyr barcud, cerddwyr a’u ffrindiau bach pedair coes, teuluoedd sy'n edrych i ddianc i lan y môr a phreswylwyr lleol Rhosneigr ac Ynys Môn.

Ysbrydoliaeth

Mae’r tu mewn wedi’i ysbrydoli gan deimlad cyfarwydd o dŷ glan mor rystig.

Dychmygwch gadeiriau gwiail, lledr hynafol, lliain naturiol, byrddau pren wedi'u hindreulio, lloriau wedi’u cannu i liw tywod a lampiau rhaff crog anferth. Fodd bynnag, beth sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig yw ein tîm. Mae ein rheolwr cyffredinol, Chloe a’n prif gogydd, Hefin, yn arwain trwy esiampl wrth roi croeso cyfeillgar a chynnes na fyddwch yn ei anghofio.

Treftadaeth

Ers ei godi ar droad yr ugeinfed ganrif, mae adeilad Sandy Mount House wedi bod yn rhan bwysig o fywyd pentref Rhosneigr, i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae hyd yn oed pennod arno yn llyfr Tim Hale, Rhosneigr - People & Places.

Images courtesy and copyright of Rhosneigr Publishing

Ailfodelu a Gweledigaeth

Mae'r adeilad wedi’i ailfodelu a’i ailwampio’n sylweddol ers i ganiatâd cynllunio gael ei roi i'r perchnogion presennol yn gynnar yn 2018.

Wedi'i greu gan y dylunydd enwog Michelle Derbyshire, sy'n gweithio ochr yn ochr â'r perchennog, Louise Goodwin, mae'r tu mewn i Tŷ Sandy Mount wedi’i lunio'n ofalus i adlewyrchu'r wefr hamddenol ond sydd ag ansawdd uchel iddi ac sy'n sail i'n gwasanaeth a'n hethos. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'n tŷ a dod yn ffrindiau.

Ymunwch â'n tîm

Rydym yn chwilio am bobl â sgiliau lletygarwch gwych sydd am fod yn rhan o brofiad unigryw i'n gwesteion.

Yn gyfnewid am hyn, byddwn yn cynnig cyflogau cystadleuol, hyfforddiant a digon o gyfleoedd i fynd ymlaen mewn busnes cyffrous a blaengar.

We are currently looking for

Staff gweini
Staff y bar
Glanhawyr

Os credwch yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer unrhyw un o'r swyddi hyn, anfonwch CV ac e-bost eglurhaol i recruitment@sandymounthouse.co.uk a byddwn yn cysylltu â chi. Diolch am eich diddordeb yn Sandy Mount House.

recruitment@sandymounthouse.co.uk

Talebau rhodd

Gellir gwneud talebau rhodd Tŷ Sandy Mount i ba bynnag werth yr hoffech, neu siaradwch â ni ynghylch teilwra pecyn i rywun arbennig. Anfonwch air atom gan ddefnyddio'r ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi.

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.

This website uses cookies to understand your use of our website and to give you a better experience. By using this website, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about cookies and how to change your choices, please go to our Cookie Policy.