en
Archebu ystafell
Archebu bwrdd
Bwydlen

Bwyta ac yfed

Mae cartrefol, mirain, blasus a boddhaus yn eiriau sy’n dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am fwyta gyda ni.

Ymbleseru

P'un a ydych yn chwilio am fwyd sydyn yn y bar o'n dewis o blatiau bach, neu’n mwynhau cinio mwy ymbleserus gyda ffrindiau, gallwn addo bwyd hael a blasau cadarn, gan ddefnyddio'r cynnyrch gorau o ffynonellau lleol.

Yn gyfforddus ac anffurfiol, mae ein mannau bwyta’n addas i deuluoedd ac mae croeso i gŵn yn y bar ac ar y teras blaen.

O’n man bwyta dan do llusern llawn golau, gallwch weld ein cogyddion yn gweithio yn y gegin agored ac, yn ystod misoedd yr haf, byddwn yn plygu’r drysau’n ôl i’n teras bwyta awyr agored dan do, wedi’i wresogi lle ceir tân clyd.

Archebu ystafell

Iechyd Da

Ym mar SMH ceir detholiad o gwrw go iawn a chwrw’r grefft, yn ogystal â choctels wedi’u cymysgu’n feistrolgar a chasgliad cymysg o jîns arbennig a chwisgi coeth.

Mae ein rhestr gwin yn cynnwys hen ffefrynnau yn ogystal â rhai dewisiadau anarferol yr ydym yn hyderus na fyddwch yn dod o hyd iddynt yn yr unlle arall ar Ynys Môn, a bydd ein tîm yn fwy na pharod i ddweud popeth amdanynt wrthych.

Bwyta’n breifat

Mae ein Hystafell Tsieina Glas yn lleoliad prydferth ar gyfer ciniawa’n breifat, partïon neu ddigwyddiadau corfforaethol.

Lle i hyd at 18 eistedd, y lle golau a chyfforddus hwn yw’r man perffaith ar gyfer digwyddiadau  gyda’n gwasanaeth a’n croeso hynod.

Mae gennym hefyd le bwyta ychydig yn llai yng nghanol yr adeilad ac mae modd ei gau i greu awyrgylch mwy personol i hyd at 12 o bobl.

This website uses cookies to understand your use of our website and to give you a better experience. By using this website, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about cookies and how to change your choices, please go to our Cookie Policy.