Roeddem wrth ein boddau’n ddiweddar yn croesawu gwraig leol, ganmlwydd oed, Mary Roberts, ‘Anti Mary’ i bawb yn Rhosneigr, i agor y drysau i Tŷ Sandy Mount sydd newydd gael ei ailwampio. Estynnwyd gwahoddiad i bobl leol a gwahoddedigion i noson lle’r oedd modd gweld y bwyty a’r bar trawiadol, newydd sydd bellach ar agor i’r cyhoedd.
Cafodd gwahoddedigion prosecco a canapés, gan roi iddynt flas o fwydlen Tŷ Sandy Mount a grëwyd gan y cogydd, Hefin Roberts, ac sy’n cynnwys detholiad o gynnyrch ffres a lleol Cymreig. Mae yna gregyn gleision Menai, Halen Môn, Môn las – caws glas o Fôn, cig moch wedi’i halltu’n lleol a selsig cartref gan E.T.Jones ac mae hyd yn oed cig oen Môn o fferm Dolmeinir ar un o bizzas unigryw’r tŷ bwyta.
Yn y rhestr ddiodydd ceir fersiwn arbennig o ‘Bloody Mary’ – fe’i bedyddiwyd yn ‘Anti Mary’ er anrhydedd i fodryb sy’n annwyl gan lawer yn y pentref.
Yn ogystal â bwyty a bar trawiadol, mae gan Tŷ Sandy Mount saith ystafell wely moethus, y mae modd, bellach, eu harchebu.
Mae Tŷ Sandy Mount yn agored saith niwrnod yr wythnos o 9am – 11pm, gan weini brecwast, coffi, diodydd, cinio ganol dydd, cinio nos a byrbrydau yn y bar. Nid oes modd archebu prydau nos ar ôl 9pm.
Meddai Jo Watson, rheolwr Tŷ Sandy Mount: “Roeddym wrth ein boddau ein bod yn agored mewn amser ar gyfer y Nadolig ac roedd y ffaith fod Anti Mary, gwraig ganmlwydd oed enwog Rhosneigr ar gael i ddechrau’r parti, yn gwneud yr achlysur yn un hyd yn oed mwy arbennig. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl leol ac ymwelwyr i Tŷ Sandy Mount yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Os yw’r wythnosau agoriadol yn fesur o’r hyn sydd i ddod, bydd 2019 yn flwyddyn brysur!”