en
Archebu ystafell
Archebu bwrdd
Bwydlen

SMH yn penodi rheolwr cyffredinol

SMH yn penodi rheolwr cyffredinol

Mae Tŷ Sandy Mount wedi penodi Jo Watson i arwain ei dîm rheoli. Bydd Jo yn rheoli’r tîm ar y safle, gan oruchwylio gwaith o ddydd i ddydd a rheoli’r berthynas â chyflenwyr.

Daw Jo i Tŷ Sandy Mount o’r adwerthwr ffasiwn ar-lein boohoo.com lle’r oedd yn bennaeth caffael a chyfleusterau ers dros bum mlynedd. Dechreuodd Jo ei gyrfa yn y diwydiant gwestai, yn gweithio i Westai Shire ac mae ganddi brofiad helaeth o reoli cyllidebau a thimau mawr.

Mae Jo a’i gŵr Shaun wedi symud o ogledd-orllewin Lloegr ac wedi prynu cartref ar Ynys Môn.

Medd Jo: “Rwyf wedi fy nghyffroi gan yr her newydd yn Tŷ Sandy Mount. Efallai y bydd yn ymddangos yn fyd hollol wahanol i’r amgylchedd mwy yn boohoo.com, ond, yn y bôn, yr un yw fy rôl. Mae’n golygu adeiladu tîm hapus mewn amgylchedd sy’n ffynnu ac sy’n llwyddiant masnachol.”

“Alla’ i ddim aros i groesawu ein gwesteion cyntaf yn yr wythnosau nesaf. Rwyf am sicrhau ein bod yn rhagori ar eu disgwyliadau gyda’n lletygarwch, ein gwasanaeth a’n hansawdd  – rhywbeth fydd yn gwneud i bobl leol ac ymwelwyr, fel ei gilydd, ddod yn ôl am fwy.”

“Mae Tŷ Sandy Mount yn rhywbeth gwahanol ar gyfer Ynys Môn ac mae disgwyl iddo ddod yn destun siarad i bentref hardd Rhosneigr ac yn ganolbwynt iddo.”

Medd perchennog Tŷ Sandy Mount, Louise Goodwin: “Rwyf yn adnabod Jo ers nifer o flynyddoedd. Roeddwn yn gwybod y byddai ei chynhesrwydd a’i phersonoliaeth yn ffitio’n berffaith i’r hyn yr ydym yn anelu at ei gyflawni yn Tŷ Sandy Mount. Ynghyd â’i chraffter masnachol, hi yw’r rheolwr delfrydol i ni. Rydym eisiau cynnig y gorau mewn gwasanaeth ac ansawdd. Allwn ni ddim aros i agor ein drysau gyda Jo wrth y llyw.”

Ar ôl ei gwblhau, bydd gan Tŷ Sandy Mount fwyty cain ar gyfer 120 o bobl i deuluoedd gael ymlacio wrth fwyta, bar oer, hamddenol a chroesawgar a saith ystafell wely foethus. Y bwriad yw agor y bwyty saith niwrnod yr wythnos gan gynnig brecwast, cinio ganol dydd a chinio nos ynghyd â choffi, cacennau, melysion a byrbrydau bar. Mae’n anelu at fod yn ganolbwynt i’r pentref, trwy gynnig cyfle i fwyta ac yfed mewn amgylchedd braf – gyda rhywbeth i bawb.

This website uses cookies to understand your use of our website and to give you a better experience. By using this website, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about cookies and how to change your choices, please go to our Cookie Policy.