Dyma’r telerau a’r amodau sy’n berthnasol pan fyddwch yn archebu llety gyda ni, p’un a ydych yn defnyddio gwasanaeth archebu ar-lein neu drwy e-bost neu dros y ffôn.
Archebu a Thalu
- Mae angen manylion cerdyn talu arnom pan fyddwch yn archebu er mwyn sicrhau eich archeb (Visa, MasterCard neu Amex).
- Cymerir y taliad am eich llety pan fyddwch yn gadael.
- Bydd gofyn i westeion sy’n talu gydag arian parod ddangos llun adnabod.
- Nid yw Tŷ Sandy Mount yn derbyn sieciau.
- Gallai gyfraddau newid yn ôl y tymor.
- Mae’r holl gyfraddau’n cynnwys TAW ar y gyfradd gyfredol.
Canslo a thaliadau
- Os byddwch yn canslo archeb, ceidw Tŷ Sandy Mount yr hawl i osod taliadau canslo yn unol â’r isod:
- Codir tâl o 100% o dâl yr ystafell am y noson gyntaf am ganslo o fewn 48 awr i’r diwrnod cyrraedd.
- Dylid rhoi gwybod i’r asiant archebu neu ar y wefan yr archebwyd trwyddi am unrhyw ganslo neu newidiadau. Os ydych wedi archebu’n uniongyrchol gyda Tŷ Sandy Mount, cysylltwch â ni ar 01407 253102 neu info@sandymounthouse.co.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i gwrdd â’ch gofynion yn amodol ar y taliadau canslo uchod.
- Os na fyddwch yn cyrraedd, rhoddir cost aros y noson gyntaf ar eich cerdyn credyd / debyd a ddefnyddir i warantu’ch archeb. Ni chodir tâl am unrhyw nosweithiau wedi hynny a chaiff yr archeb ei chanslo.
Cyrraedd a gadael y gwesty
- Cewch gofrestru ar gyfer eich ystafell rhwng 3pm a 10pm, a rhaid i chi adael yr ystafell erbyn 11am ar fore olaf eich arhosiad.
- Os ydych yn disgwyl y byddwch yn cyrraedd yn hwyr iawn gyda’r nos, rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel y gallwn wneud trefniadau priodol.
- Ni all Tŷ Sandy Mount storio paciau gwesteion.
Llety
- Ni chaniateir ysmygu yn unrhyw le ar ein safle. Gellir defnyddio’r teras awyr agored i anweddu.
- Cadwn yr hawl i godi ffi ysmygu ar unrhyw westeion sydd wedi bod yn ysmygu yn un o’n hystafelloedd gwely. Bydd y ffi’n talu’r gost glanhau ychwanegol ac am golli unrhyw fusnes os na ellir defnyddio ystafell oherwydd arogl mwg.
- Os bydd unrhyw ddifrod neu golled i gynnwys eich ystafell, gan gynnwys staeniau i unrhyw un o’r dodrefn meddal, y carpedi a’r rygiau, cadwn yr hawl i roi cost lawn atgyweirio / glanhau’r cyfryw eitem(au) ar y cerdyn credyd neu ddebyd a ddefnyddir gennych i archebu eich llety neu, os nad yw hynny’n bosib, gost prynu’r eitem(au) yn newydd.
- Os oes angen defnyddio un o’n cotiau teithio arnoch, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu lle, fel arall, oherwydd y galw gan westeion eraill, ni allwn warantu bod cot ar gael.
- Darperir dillad gwely a thywelion. Pe caent eu symud o’r gwesty, ynghyd â gynau / pethau ymolchi, cadwn yr hawl i roi cost prynu’r cyfryw eitem(au) ar y cerdyn credyd neu ddebyd a ddefnyddir i archebu’ch llety.
- Ni all Tŷ Sandy Mount dderbyn cyfrifoldeb am eich eiddo ac ni fydd yn atebol am unrhyw golli eiddo a ddygir i’r gwesty neu a gaiff ei adael ar ôl nac am unrhyw ddifrod iddynt.
Anifeiliaid anwes
- Mae gennym nifer o ystafelloedd cŵn-gyfeillgar ar gael. Mae’n dibynnu a yw’r rhain yn wag a rhaid eu harchebu’n uniongyrchol â Tŷ Sandy Mount cyn cyrraedd.
- Dim mwy na dau gi (maint canolig) fesul ystafell.
- Rhaid i westeion roi gwybod a ydynt yn dod â chŵn cyn cyrraedd.
- Codir am bob ci fesul noson.
- Ni fydd y glanhawyr yn glanhau’r ystafell os bydd ci yno ar ei ben ei hun.
- Ni chaniateir cŵn yn y bwyty, ar y decin yn y cefn nac yn yr ardd.
- Caniateir cŵn yn y bar a’r teras blaen.
- Mae perchnogion yn gyfrifol am lanhau ar ôl eu ci.
- Rhaid i gŵn fod ar dennyn pan fyddant mewn mannau cyhoeddus.
Parcio ceir
- Ar gyfer llwytho a dadlwytho bagiau a gwesteion yn unig y mae’r lle parcio ar ochr chwith y gwesty. Mae gennym faes parcio preifat yn rhad ac am ddim gerllaw, a gallwn eich cyfeirio ato pan gyrhaeddwch neu mae maes parcio talu ac arddangos gyferbyn â Tŷ Sandy Mount wrth ochr Neuadd y Pentref. Nid yw Tŷ Sandy Mount yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golli cerbydau na’u cynnwys nac am unrhyw ddifrod iddynt.
- Nid yw Tŷ Sandy Mount yn atebol am ad-dalu unrhyw daliadau parcio a godir yn ystod eich arhosiad.
Atebolrwydd
- Nid yw Tŷ Sandy Mount yn derbyn atebolrwydd am golli unrhyw wrthrych, offer, dodrefn, stoc nac unrhyw eiddo arall a ddygir i’r adeilad gan y Gwestai neu bersonau a awdurdodwyd gan y Gwestai nac am unrhyw ddifrod iddynt.
- Caiff eiddo ei storio yn y gwesty am dri mis cyn cael gwared ag o. Cysylltwch â ni’n uniongyrchol cyn gynted ag y bo modd i roi gwybod am unrhyw eitemau sydd ar goll. Gellir ailgodi am unrhyw gostau postio.
- Nid yw’r Cytundeb hwn yn cael effaith ar unrhyw hawliau a allai fod gan y Gwestai dan Ddeddf Perchnogion Gwestai 1956, lle mae’r weithred hon yn berthnasol iddi.
Bywyd y pentref
- Mae Rhosneigr yn bentref tawel a byddem yn gofyn i bob un o’n gwesteion barchu’n cymdogion, yn enwedig yn hwyr yn y nos.
Force majeure
Ni fydd Tŷ Sandy Mount yn torri’r Cytundeb archebu os na fydd yn darparu’r gwasanaethau dan y Cytundeb hwn oherwydd yr amgylchiadau a ganlyn:
- Gweithwyr y cwmni’n gweithredu’n ddiwydiannol
- Staff un o gyflenwyr y cwmni’n gweithredu’n ddiwydiannol
- Tân, mellt, ffrwydrad, terfysgoedd, cyffro sifil, niwed maleisus, tywydd eithafol, storm, llifogydd, pibellau’n byrstio, daeargryn, terfysgaeth a’r gwesty’n cael ei ddifrodi neu ei ddinistrio.
- Peiriannau’n torri, neu fethiant i gyflenwi’r gwesty â nwy, trydan, dŵr ac yn y blaen, a hynny’r tu allan i reolaeth y cwmni.
Os ydych wedi archebu trwy asiant archebu trydydd parti ac, am amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, ni allwn ddarparu ar gyfer eich archeb, byddwn yn gweithio gyda’ch asiant archebu i ddarparu llety arall.