en
Archebu ystafell
Archebu bwrdd
Bwydlen

Polisi Preifatrwydd

Cyflwyniad

Caiff y wefan hon ei chynnal gan Sandy Mount House (“ni”, “Sandy Mount House”) ac rydym yn rheolwr at ddibenion Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) 2016 / 679 yr Undeb Ewropeaidd. Golyga hyn ein bod yn gyfrifol am brosesu’r wybodaeth bersonol a roddwch i ni wrth ddefnyddio’r wefan hon, ac yn ei rheoli yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Mae Sandy Mount House yn deall bod defnyddio a storio gwybodaeth bersonol yn bwysig i gwsmeriaid a gwerthfawrogwn eich ymddiriedaeth yn caniatáu i ni wneud hyn mewn modd gofalus a synhwyrol. Rydym wedi creu’r datganiad polisi preifatrwydd hwn er mwyn dangos ein hymrwymiad i breifatrwydd ein cwsmeriaid.

Wrth ddefnyddio Sandy Mount House, ein gwefan (gan gynnwys ein gwefan symudol), ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, ein llinell ffôn i archebu ac unrhyw wasanaeth arall yn Sandy Mount House, rydych yn cydnabod ein bod yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol a, lle bo rhaid, yn rhoi caniatâd i arferion o’r fath, fel yr amlinellir yn y datganiad hwn.

Os defnyddiwch ein gwefan i wneud cais am swyddi gwag, caiff gweithgareddau o’r fath eu llywodraethu gan bolisi preifatrwydd ar wahân sy’n amlinellu sut ydym yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol at y dibenion hyn a’ch hawliau yn hyn o beth. Mae’r polisi preifatrwydd ar wahân hwn ar gael ar gais.

Gwybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu:

Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi (ac eraill os rhoddwch eu gwybodaeth bersonol i ni) pan fyddwch yn:

  • gwneud neu’n rheoli archeb naill ai’n bersonol neu fel gwestai i westai arall.
  • gofyn am daflen froliant.
  • cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ac e-byst marchnata eraill (yn unol â Marchnata isod).
  • ymgysylltu â ni i dderbyn gwasanaethau desg gymorth (megis trwy gysylltu â’n hadran gwasanaethau cwsmeriaid, drwy’r ffurflen “Cysylltu â Ni” ar ein gwefan neu drwy ffonio’n rhif ffôn (neges fydd, o bosib, wedi’i recordio).
  • anfon deunydd i’n gwefan a / neu i’n tudalen cyfryngau cymdeithasol;
  • cwblhau adborth cwsmeriaid neu arolygon fel rhan o’ch arhosiad yn Sandy Mount House.
  • cofrestru yn y dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd Sandy Mount House.
  • gwneud cwyn neu anghytuno â ni neu pan fyddwch yn rhan o ddigwyddiad sy’n cael ei gofnodi’n gyfreithiol yn ein heiddo (e.e. mewn perthynas â chyflwyno adroddiadau iechyd a diogelwch);
  • siarad ag un o’n cynrychiolwyr, un o’n gweithwyr neu ag un o’n tîm cysylltiadau cyhoeddus.
  • cymryd rhan mewn cystadleuaethau neu hyrwyddiadau.
  • a / neu ddefnyddio’n gwefan a’n rhaglenni cwsmeriaid mewn unrhyw ffordd arall.

Gallai’r wybodaeth bersonol a gesglir yn y modd uchod gynnwys yr isod amdanoch (ac eraill os rhoddwch eu gwybodaeth bersonol i ni):

  • enw llawn
  • cyfeiriad post
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn
  • manylion talu
  • geo-leoliad
  • dynodwyr peiriannau (megis cyfeiriadau IP)
  • gwybodaeth datrys anghytundeb
  • gwybodaeth am iechyd ac anabledd
  • gwybodaeth atodol (dewisiadau dietegol a dewisiadau eraill a gofynion arbennig)
  • data delwedd
  • data ymddygiadol (tagiau a chwcis – gweler yr adran ‘Cwcis ac Olrhain’ isod)
  • recordiadau llais; a
  • gwybodaeth adnabod (fel pasbortau, trwyddedau gyrwyr neu gardiau adnabod gwladol)

Gwybodaeth bersonol a roddir gan drydydd parti

Efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi o ffynonellau eraill (megis y Gwasanaeth Dewis Post) y byddwn yn ei hychwanegu at y wybodaeth sydd gennym eisoes amdanoch er mwyn ein helpu i ddarparu’n cynnyrch a’n gwasanaethau yn unol â’ch gofynion a sicrhau y cedwir ansawdd y data sydd gennym ar eich cyfrif(on) yn gywir.

Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch gan ddarparwyr cyfryngau cymdeithasol megis Twitter a Facebook neu o wefannau trydydd parti lle rydych wedi gadael sylw neu adborth amdanom (er enghraifft ar TripAdvisor).

Sut ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol:

Er mwyn cymryd y camau angenrheidiol i baratoi’n rhwymedigaethau dan gontract archebu neu i gyflawni’r cyfryw rwymedigaethau.

  • Archebu a thalu – darparu gohebiaeth ynghylch archebion, cynhyrchion a gwasanaethau a ddarperir i chi (ac i eraill os rhoddwch eu gwybodaeth bersonol i ni)
  • Eich diweddaru ar faterion sy’n cael effaith ar eich archeb – cysylltu â chi (ac ag eraill os rhoddwch eu gwybodaeth bersonol i ni) os bydd newid sy’n cael effaith ar archeb neu unrhyw ddata neu wybodaeth bersonol yr ydych wedi’i rhoi i ni, fel newidiadau i delerau ac amodau archebu neu i’r polisi preifatrwydd hwn
  • Gohebiaeth gwasanaeth gwefan – eich hysbysu am unrhyw newidiadau i’n gwefan neu i’n gwasanaethau all gael effaith arnoch (ac eraill os rhoddwch eu gwybodaeth bersonol i ni)
  • Gohebiaeth gwasanaeth cwsmeriaid – rhoi gwybodaeth neu ohebiaeth y gofynnir amdani, fel taflen lleoliad neu ymateb gennym i ymholiad a wnaed gennych.
  • Rhoi cymorth i gwblhau archebion ar-lein

Gyda’ch caniatâd:

  • Gohebiaeth farchnata – creu proffil amdanoch at ddibenion marchnata i deilwra ein gohebiaeth i chi. Efallai y byddwn yn defnyddio prosesau awtomataidd i wneud hyn
  • Cynigion hyrwyddo – rhoi gwybod i chi am gynigion hyrwyddo a chynhyrchion neu wasanaethau eraill a allai fod o ddiddordeb (yn unol â gohebiaeth Marchnata uchod)
  • Cadw cofnodion sy’n nodi’ch caniatâd i statws – i sicrhau ein bod yn adlewyrchu’ch dymuniadau’n gywir wrth gyfathrebu â chi

Mae o fudd cyfreithlon* i ni wella’n gwasanaethau:

  • Ymchwil i’r farchnad – cysylltu â chi (ac eraill os rhoddwch eu gwybodaeth bersonol i ni) i ofyn am y profiad yn Sandy Mount House ac o wasanaethau fel rhan o raglen barhaus o wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Nid gohebiaeth farchnata yw hyn ac mae ar wahân i’r ohebiaeth Marchnata uchod. Efallai y byddwn yn defnyddio trydydd parti, er enghraifft, er mwyn gohebu gwaith ymchwil i’r farchnad o’r fath i chi ar ein rhan.
  • Addasu gwefan – addasu ein gwefan a’i gynnwys i’ch dewisiadau penodol yn unol â’r adran Cwcis ac Olrhain isod.
  • Cefnogaeth i gwsmeriaid – monitro galwadau a helpu i hyfforddi staff mewn perthynas â’n gwaith cefnogi cwsmeriaid a desg gymorth.
  • Gwella cynnyrch a gwasanaethau – gwella’n cynnyrch a’n gwasanaethau.
  • Dadansoddiad gwasanaeth – gwneud gwaith ymchwil, dadansoddi ystadegol a dadansoddi ymddygiad. Gall hyn gynnwys darparu gwybodaeth ystadegol gyfanredol sy’n ymwneud â chwsmeriaid, gwerthiant, patrymau traffig a gwybodaeth gysylltiedig am y safle i drydydd parti dibynadwy.

Mae o fudd cyfreithlon * i ni amddiffyn yn erbyn twyll:

  • Gwella’r wefan ac atal twyll – gwella’n gwefan, atal neu ganfod achosion o dwyll neu gamddefnyddio’n gwefan a sicrhau y gall trydydd parti wneud gwaith technegol, logistaidd neu eraill ar ein rhan.
  • Diogelwch – cynnal archwiliadau diogelwch wrth ganiatáu i chi gael mynediad at ein gwasanaethau ac atal gweithgarwch twyllodrus neu y mae amheuaeth ei fod yn dwyllodrus.

Er mwyn cwrdd â’n rhwymedigaethau cyfreithiol:

  • Trethiant – sicrhau ein bod yn cwrdd â’n rhwymedigaethau treth a rheoleiddiol eraill;
  • Cofrestru – sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau awdurdodaeth leol (lle mae angen cofrestru mewn awdurdodaethau o’r fath).

* ni ddylai unrhyw ddibyniaeth ar fudd cyfreithlon niweidio’ch budd na’ch hawliau a’ch rhyddid sylfaenol.

Marchnata

Yn achlysurol, byddwn yn anfon deunydd hyrwyddo atoch ynghylch cynhyrchion newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall y credwn a allai fod o ddiddordeb i chi’n seiliedig ar y proffil yr ydym wedi’i greu ohonoch, a hynny i’r cyfeiriadau e-bost a’r rhifau ffôn a roesoch i ni.

Os yw’r rhain yn debyg i gynhyrchion, gwasanaethau ac archebion a ddarparwyd gennym yn flaenorol i chi, byddwn yn tybio, dan ein buddiannau cyfreithlon i hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau tebyg, eich bod yn fodlon derbyn y wybodaeth hon oni bai eich bod yn dweud fel arall wrthym.

Sylwch nad ydym yn anfon gwybodaeth atoch nad ydych yn dymuno ei derbyn a gallwch ddewis peidio â’i derbyn ar unrhyw adeg (gweler ‘Yr hawl i ofyn i ni roi’r gorau i gysylltu â chi gyda gwybodaeth farchnata uniongyrchol’ isod am ragor o wybodaeth).

Byddwn bob amser yn gofyn am eich caniatâd cyn anfon gwybodaeth marchnata trwy e-bost atoch. Gwnawn hyn trwy ofyn am eich cadarnhad (ee trwy roi tic neu’ch manylion cyswllt yn y blychau perthnasol) sy’n nodi eich bod yn dymuno derbyn gwybodaeth marchnata a gallwch ddewis peidio â’i derbyn ar unrhyw adeg (gweler ‘Yr hawl i ofyn i ni roi’r gorau i gysylltu â chi gyda gwybodaeth marchnata uniongyrchol’ isod am ragor o wybodaeth). Mae hyn yn sicrhau mai gwybodaeth yr ydych wedi rhoi caniatâd i ni ei hanfon ac yr ydych yn fodlon ei derbyn yn unig y byddwch yn ei derbyn.

Efallai y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i greu proffil amdanoch er mwyn teilwra’n deunydd cyfathrebu a marchnata i chi trwy gyfrwng dulliau awtomataidd. Gallwch wrthwynebu proffiliau o’r fath, gweler ‘Yr hawl i wrthwynebu gwneud penderfyniadau / proffilio awtomataidd’ isod).

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio’ch gwybodaeth i gysylltu â chi at ddibenion ymchwil a / neu i ofyn am eich profiad gan ddefnyddio’n gwestai a’n gwasanaethau fel rhan o raglen barhaus o wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost, dros y ffôn, trwy destun neu’r cyfryngau cymdeithasol a / neu trwy lythyr. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio’r wybodaeth i addasu’r wefan yn unol â’ch diddordebau.

Am faint fyddwn ni’n cadw’ch gwybodaeth bersonol

Rydym yn cadw’ch gwybodaeth ar gyfer ystod o ddibenion sy’n pennu am faint y mae angen i ni gadw gwybodaeth o’r fath. Er enghraifft (nid yw’r rhestr yn gyfyngedig):

Data Cyfnod Cadw
Sgyrsiau ffôn wedi’u recordio 7 niwrnod o’r dyddiad y derbyniwyd yr alwad
At ddibenion marchnata Tair blynedd ers y cysylltiad olaf â chi. Gallai hyn olygu defnyddio’n gwefannau, aros yn ein gwestai neu ymatebion i ohebiaeth gennych
Ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a gyfyd o gontractau a wnaed gyda chi, er enghraifft rheoliadau treth Saith mlynedd o ddyddiad y gweithrediad diwethaf

Byddwn yn dileu eich data o’n systemau ar ddiwedd y cyfnodau cadw data perthnasol, oni bai ei bod yn ofynnol i ni, yn ôl y gyfraith gyfredol neu gyfraith y dyfodol, gadw’ch gwybodaeth bersonol am gyfnod hwy.

Sut byddwn yn ymdrin â diogelwch gwybodaeth

Er mwyn diogelu’ch gwybodaeth, mae gan Sandy Mount House bolisïau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau mai personél awdurdodedig yn unig sy’n gallu defnyddio’r wybodaeth, bod y wybodaeth honno’n cael ei thrin a’i storio mewn ffordd ddiogel a synhwyrol, a bod gan bob system sy’n gallu cael at y wybodaeth fesurau diogelwch cymesur a rhesymol yn eu lle. Er mwyn sicrhau hyn, mae gan weithwyr, contractwyr, isgontractwyr a chyflenwyr trydydd parti gontractau, gyda rolau a chyfrifoldebau diffiniedig.

Er ein bod yn cymryd camau masnachol rhesymol i sicrhau diogelwch a diogeledd eich data, oherwydd y risgiau cynhenid â’r Rhyngrwyd, ni allwn warantu diogelwch absoliwt eich data wrth ddefnyddio’n gwasanaethau.

Sut byddwn yn storio gwybodaeth

Byddwn yn cadw’ch data personol cyhyd ag y bydd rhaid i ni yn unig, a hynny er mwyn eu defnyddio fel y’u disgrifir yn y polisi preifatrwydd hwn a / neu cyhyd â bod gennym eich caniatâd i’w cadw.

E-byst

Pan fyddwch yn anfon e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddangosir ar ein gwefan, casglwn eich cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth arall a roddwch yn yr e-bost hwnnw (megis eich enw, eich rhif ffôn a’r wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw flwch llofnod yn eich e-bost). Cedwir y data hyn ar gyfrifiaduron diogel a chyfrifiaduron gwaith wedi’u gwarchod gan gyfrinair.

System Archebu Eviivo

Caiff data archebu ystafelloedd gwely eu storio ar gronfa ddata ddiogel a gynhelir gan ein rheolwr archebu, Eviivo. Mae’r gronfa ddata hon yn cydymffurfio’n llwyr â rheolau Data GDPR. Ni fydd Sandy Mount House na Eviivo yn trosglwyddo unrhyw ddata personol i unrhyw barti arall os nad ydynt yn rhan o’r broses archebu.

Mae Eviivo’n cydymffurfio’n llwyr â GDPR. Maent yn cydymffurfio â PCI Lefel 1 a chaiff yr holl ddata eu storio’n gywir. Mae ganddynt Swyddog Diogelu Data Dynodedig. Mae Eviivo’n defnyddio’u cwcis eu hunain i gasglu data hanfodol amdanoch. Gallwch ddarllen rhagor am eu polisi Preifatrwydd a Choginio yma.

Gallwch ddiffodd cwcis yn eich gosodiadau porwr er y gallai hyn gael effaith ar berfformiad y meddalwedd a ddefnyddiwn ar ein gwefan.

Mailchimp

Pan fyddwch yn cofrestru â’n rhestr bostio, anfonir eich e-bost trwy gysylltiad diogel â Mailchimp, ein darparwr marchnata e-bost. Mae Mailchimp yn cadw data personol yn ddiogel ac yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol cyfredol. Gallwch ddarllen mwy am eu polisi preifatrwydd gan ei fod yn ymwneud â’ch manylion cyswllt yma.

Trosglwyddo’ch gwybodaeth allan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd

Efallai y bydd rhaid i ni drosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol o bryd i’w gilydd i gefnogi partneriaid sydd wedi’u lleoli y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop, er mwyn sicrhau bod ein gwefannau’n gweithredu’n gywir neu mewn perthynas â thrydydd parti y byddwn yn rhannu eich data ag o. Wrth drosglwyddo’ch data byddir yn sicrhau digon o ddiogelwch i ddiogelu’ch hawliau preifatrwydd ac yn unioni unrhyw achos annhebygol lle torrir y diogelwch hwnnw.

Eich hawliau

Er mwyn prosesu unrhyw un o’r ceisiadau a restrir isod, efallai y bydd angen i ni wirio pwy ydych, ar gyfer eich diogelwch. Mewn achosion o’r fath bydd eich ymateb yn angenrheidiol er mwyn i chi ymarfer  yr hawl hon.

Yr hawl i gael at wybodaeth sydd gennym amdanoch

Gallwch gysylltu â ni unrhyw adeg i ofyn am fanylion ynglŷn â’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, pam fo’r wybodaeth honno gennym, pwy sydd â mynediad at y wybodaeth ac o le cawsom y wybodaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, efallai y bydd gennych hawl i gopïau o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Unwaith y byddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn ymateb o fewn 30 diwrnod.

Yr hawl i gywiro a diweddaru’r wybodaeth sydd gennym amdanoch

Os yw’r data sydd gennym amdanoch yn hen, yn anghyflawn neu’n anghywir, gallwch ein hysbysu a byddwn yn sicrhau y cânt eu diweddaru.

Yr hawl i gael dileu’ch gwybodaeth

Os ydych yn teimlo na ddylem fod yn defnyddio’ch data mwyach neu ein bod yn defnyddio’ch data’n anghyfreithlon, gallwch ofyn i ni ddileu’r data sydd gennym. Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn cadarnhau a yw’r data wedi’u dileu neu’n dweud wrthych y rheswm pam na ellir eu dileu.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data

Mae gennych yr hawl i ofyn i Sandy Mount House roi’r gorau i brosesu’ch data. Ar ôl derbyn y cais, byddwn yn cysylltu â chi i ddweud wrthych a allwn gydymffurfio neu a oes gennym sail gyfreithlon i barhau. Os na chaiff data eu prosesu bellach, efallai y byddwn yn parhau i ddal eich data i gydymffurfio â’ch hawliau eraill.

Yr hawl i ofyn i ni roi’r gorau i gysylltu â chi gyda gwybodaeth marchnata uniongyrchol

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni roi’r gorau i gysylltu â chi gyda gwybodaeth marchnata uniongyrchol. Ar e-byst hyrwyddo mae gennym ddolen ‘dad-danysgrifio’ ar waelod yr e-bost a fydd yn eich dad-danysgrifio o’r gwasanaeth hwnnw. Os hoffech eithrio’ch hun mewn perthynas â mwy nag un cyfeiriad e-bost, rhaid i chi lenwi cais ar wahân ar gyfer pob cyfeiriad e-bost.

Noder nad yw’n bosib ‘eithrio’ o dderbyn gohebiaeth gennym sy’n ymwneud â’ch archebion neu arolygon boddhad cwsmeriaid a anfonwyd fel rhan o’r archeb (nad ystyrir eu bod yn farchnata at y dibenion hyn). Mae hyn yn sicrhau y gallwn gysylltu â chi bob amser o ganlyniad i amgylchiadau a allai gael effaith ar eich arhosiad gyda ni ac er mwyn i ni wella’n gwasanaethau wrth fynd ymlaen.

Yr hawl i gludo data

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo’ch data i reolwr arall. Unwaith y byddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn cydymffurfio lle mae’n ymarferol gwneud hynny.

Yr hawl i wrthwynebu i wneud penderfyniadau / proffiliau awtomataidd

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni roi’r gorau i’ch proffilio mewn perthynas â’n harfer marchnata uniongyrchol. Gallwch ein hysbysu a byddwn yn ymdrin â’ch cais yn unol â hynny.

Yr hawl i gwyno

Gallwch gwyno wrthym trwy gysylltu â’r Rheolwr Cyffredinol (rheolwr data) yn jo@sandymounthouse.co.uk  neu wrth yr awdurdod goruchwylio gwarchod data – yn y Deyrnas Unedig.  Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw hon.

Caniatâd

Yn yr achosion hynny lle mae angen eich caniatâd arnom i brosesu’ch gwybodaeth, byddwn yn gofyn i chi roi arwydd cadarnhaol (e.e. ticio blwch neu roi’ch manylion cyswllt ar y ffurflen berthnasol neu’r dudalen we sy’n gofyn am ganiatâd). Drwy roi eich caniatâd yn weithredol, rydych yn datgan eich bod wedi cael gwybod am y math o wybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu, y rhesymau am y fath brosesu, sut caiff ei defnyddio, am ba hyd y bydd yn cael ei chadw, pwy arall fydd â mynediad ati a beth yw eichch hawliau fel gwrthrych data a’ch bod wedi darllen a deall y polisi preifatrwydd hwn.

Rhannu’ch gwybodaeth

Mae’r wybodaeth a’r data a gasglwn yn bwysig i Sandy Mount House ac rydym yn deall ei bod yn bwysig i chi sut caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio a’i storio ac rydym yn gwerthfawrogi’ch ymddiriedaeth yn ein caniatáu i wneud hyn. Ni fyddem yn dymuno rhannu hyn gydag unrhyw un arall oni bai y cawn eich caniatâd penodol. Ni fyddwn byth yn datgelu, rhentu, masnachu na gwerthu’ch gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata.

Rydym yn datgelu neu’n trosglwyddo’ch data neu’ch gwybodaeth bersonol i gwmnïau, proseswyr data neu weithredwyr eraill a gyflogir gennym i gyflawni unrhyw swyddogaethau angenrheidiol ar ein rhan (megis cynnal a chadw ein gwefan, darparu systemau rheoli data i ni, ymchwil i’r farchnad, arolygon boddhad cwsmeriaid a gwasanaethau cefnogi), ond maent wedi’u rhwymo gan delerau tebyg i’r rhai a nodir yn ein polisi preifatrwydd ac efallai na fyddant yn defnyddio’r wybodaeth hon at eu dibenion eu hunain.

Os bydd Sandy Mount House neu unrhyw ran o’i fusnes yn cael ei werthu neu ei integreiddio â busnes arall, gall Sandy Mount House ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i’r perchnogion newydd (a’u cynghorwyr proffesiynol ar y gweithrediad) i’w defnyddio gan y perchnogion newydd a’u grŵp o gwmnïau yn yr un modd ag a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn, gan gynnwys parhau i roi’r un gwasanaethau a gwasanaethau gwybodaeth marchnata i chi fel y rhoddir gan Sandy Mount House ar hyn o bryd.

Efallai y byddwn hefyd yn darparu ystadegau cyfanredol am ein cwsmeriaid, ein gwerthiant, ein patrymau traffig a gwybodaeth gysylltiedig am y safle i drydydd parti dibynadwy er mwyn deall yn well ein gwasanaethau, ein gwefan a bodlonrwydd cyffredinol cwsmeriaid a allai gynnwys gwybodaeth bersonol.

Defnyddio cwcis

Mae gwefan Sandy Mount House yn defnyddio cwcis a thagiau. Ffeil destun fach yw cwci y gall eich porwr ei storio ar y ddyfais rydych chi’n ei defnyddio i fynd i’r rhyngrwyd ac sy’n caniatáu i’r porwr basio darnau bach o wybodaeth am ymddygiad defnyddwyr ar wefan benodol a roddir i weinydd gwe. Darnau o gôd yw tagiau sy’n bodoli ar dudalennau gwe ac sy’n casglu gwybodaeth am y defnydd a wneir o’r tudalennau gwe.

Yn Sandy Mount House, rydym yn defnyddio’n cwcis a’n tagiau ein hunain yn ogystal â’r rheiny gan drydydd parti fel bod ein gwefan yn gweithredu’n llyfn, megis y defnydd a wneir o swyddogaeth y fasged neu i’ch mewngofnodi’n awtomatig pan fyddwch yn mynd ar y wefan (gyda’ch caniatâd). Rydym hefyd yn defnyddio cwcis / tagiau i fonitro ymweliadau â’n gwefan ac yn chwilio’n barhaus am leoedd i wella’ch profiad o’n gwefan. Mae ein partneriaid marchnata hefyd yn defnyddio cwcis a thagiau i fonitro perfformiad ein hysbysebion ac i gyflwyno hysbysebion priodol Sandy Mount House i chi ar wefannau eraill. Ni fyddwn byth yn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch gyda’r trydydd parti hwn ac mae’r cwcis a’r tagiau a ddefnyddir yn eich cadw’n anhysbys.

Caniatâd ynghylch Cwcis

Y tro cyntaf y byddwch yn troi at wefan Sandy Mount House, byddwch yn cael gwybod sut y defnyddiwn ein cwcis i wella’ch profiad o’r safle. Drwy barhau i bori trwy ein gwefan, rydych yn rhoi caniatâd i’r defnydd a wnawn o gwcis.

Ffeil destun yw cwci a osodir ar eich disg galed gan weinydd tudalennau gwe sy’n caniatáu i’r wefan eich adnabod pan fyddwch yn dod i’r wefan. Data am weithredoedd a phatrymau pori yn unig y bydd cwcis yn eu casglu, ac nid ydynt yn eich adnabod fel unigolyn.

Rydym yn defnyddio cwcis at y dibenion a ganlyn:

  • Perfformiad a dadansoddiadau: Rydym yn defnyddio cwcis Google Analytics i’n helpu i ddadansoddi sut yr eir i’n tudalennau gwe a sut cânt eu defnyddio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis i roi cipolwg ar bethau, megis golygfeydd tudalen, cyfraddau trosi, gwybodaeth am ddyfeisiau, cyfeiriadau IP ymwelwyr, a safleoedd cyfeirio.
  • Trydydd Parti: Gall gwasanaethau Trydydd Parti ddefnyddio cwcis i’ch helpu i gofrestru â’u gwasanaethau o’n gwasanaethau ni. Caiff unrhyw ddefnydd o gwcis gan drydydd parti ei reoli gan bolisi preifatrwydd y trydydd parti sy’n gosod y cwci.

Sut i wrthod a dileu cwcis

Os hoffech wrthod neu atal y defnydd a wneir o gwcis, gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg, fel arfer trwy glicio ‘Help’ ar eich porwr. Mae cwcis yn benodol i borwyr unigol felly, os ydych yn defnyddio mwy nag un porwr, bydd angen i chi ddileu cwcis ar bob porwr. Cofiwch, trwy wrthod cwcis, ni fyddwch, o bosib, yn cael y profiad gorau posib o’ch gwefan.

I gael gwybod mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y polisi hwn, os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os ydych yn dymuno gwneud cwyn, gallwch ddefnyddio’r manylion isod i gysylltu â ni.

Rheolwr Cyffredinol (Swyddog Diogelu Data)

Sandy Mount House
Stryd Fawr
Rhosneigr
Ynys Môn
LL64 5UX

jo@sandymounthouse.co.uk

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn

Efallai y byddwn yn newid y polisi hwn o dro i dro. Dylech wirio’r polisi hwn o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r fersiwn ddiweddaraf fydd yn berthnasol bob tro y byddwch yn mynd i’r wefan.

 

This website uses cookies to understand your use of our website and to give you a better experience. By using this website, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about cookies and how to change your choices, please go to our Cookie Policy.